Pupil deprivation Grant/Grant Amddifadedd Disgyblion

Datganiad Grant Amddifadedd Ysgol Cynddelw ac Ysgol Llanarmon D C

Diben y Grant Amddifadedd Disgyblion yw gwella canlyniadau i ddysgwyr sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PhYDd). Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at welliannau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Fel ysgol rydym am ddysgu o’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt trwy:

  1. gynllunio ymyriadau sy’n canolbwyntio ar wella cyrhaeddiad plant o gefndiroedd difreintiedig, ac sy’n nodi’n glir yr hyn a ddisgwylir gan yr ymyriad, gan fonitro cynnydd disgyblion yn gyson a gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriad.
  2. integreiddio cynlluniau ar gyfer defnyddio’r GAD i’n Cynllun Datblygu Ysgol, gan selio arferion ar dystiolaeth dda a’u cynnwys fel rhan o strategaeth ysgol gyfan.
  3. gydbwyso ymyriadau ysgol gyfan ac ymyriadau wedi’u targedu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael budd fel unigolyn a bod yr ysgol gyfan yn meithrin ei gallu i helpu pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn.

Yn 2019-20 rhoddwyd i Ysgol Cynddelw ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £9,450 ac £1,150 i Ysgol Llanarmon D C

Mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Wrecsam a GwE, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • Gyflogi cymorthyddion gyda rol benodol i gyflwyno rhaglenni cefnogi gwella medrau Llythrennedd a Rhifedd.
  • Rhan – ariannu aelod o staff addysgu sydd yn targedu disgyblion sydd yn trosglwyddo o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2.
  • Cryfhau darpariaeth a datblygiad TGCh trwy gyfrannu tuag at brynu offer newydd a rhedeg clybiau digidol dan arweiniad staff.
  • Hyfforddi cymorthyddion mewn ymyriadau llythrennedd emosiynol h.y. ELSA, Therapi Lego a sicrhau darpariaeth yn ystod yr amserlen wythnosol ac eu bod yn derbyn diweddariadau rheolaidd.

Nid yw’n briodol i’r ysgol gyhoeddi ei chynllun manwl oherwydd y perygl y gellid adnabod unigolion.

 

 

Pupil Deprivation Grant Statement for Ysgol Cynddelw & Ysgol Llanarmon D C

The purpose of the Pupil Deprivation Grant is to improve the educational attainment of pupils from low income families and who are entitled to free school meals (eFSM). Schools are expected to maximise the use of this funding by introducing sustainable strategies which will quickly lead to improved outcomes for pupils entitled to free school meals.

As a school, we want to learn from the best practice in Wales and beyond by:

  1. Planning interventions that focus on improving the attainment of pupils from deprived backgrounds, regularly monitoring pupils’ progress and evaluating the impact of the intervention.
  2. Integrating plans for the effective use of the PDG into the School Development Plan, basing our practice on sound evidence and including them as part of a whole school strategy.
  3. Balancing whole school strategies with targeted interventions to ensure that all learners entitled to free school meals benefit as individuals, whilst the whole school also develops its ability to support every learner to achieve their full potential.

In 2019-20 Ysgol Cynddelw  was allocated a total Pupil Deprivation Grant of £9,450 ac £1,150 for Ysgol Llanarmon D C.

The Federation  has a comprehensive plan, agreed and monitored by GwE and Wrexham Local Authority, to promote high expectations attainment and progress and to remove barriers to learning for pupils entitled to this funding. We have used the available funding to:

  • Employ teaching assistants with a specific role in the delivery of Literacy and Numeracy intervention and support programmes.
  • Part fund a member of teaching staff who targets pupils transitioning from the Foundation Phase to Key Stage 2.
  • Strengthen provision and ICT development by contributing towards purchasing new equipment and running staff led digital clubs.
  • Train teaching assistants in emotional literacy interventions i.e. ELSA, Lego Therapy and implement delivery into weekly timetable. Continue to ensure they are regularly updated.

It is not appropriate for the school to publish a detailed plan as it could identify individual pupils.