Neges gan Dwr Cymru / Message from Welsh Water

Dear parent/guardian,

With warm weather forecast over the next few months, Welsh Water has sent a reminder about the dangers of unauthorised swimming in reservoirs, urging people not to enter the water in uncontrolled areas. Each year, hundreds of people enter the reservoirs – but unauthorised swimming in uncontrolled areas can and has been fatal, so is never allowed.

Reservoirs can be full of hidden dangers, including automatic machinery in the water that can operate at any time, and incredibly strong currents, that can pull under even the strongest swimmers. That’s why it’s best to only swim at the permitted reservoir sites, at designated times and locations

The water also has freezing temperatures which can send swimmers into cold-water shock and there is a reduced chance of rescue in some areas due to the remote location of many reservoirs, often with little or no mobile reception.

If you are in difficulty in the water, ‘Float To Live’ – this means to relax and float on your back with your ears submerged in the water until the effects of cold water shock pass. You can then swim to safety or shout for help.

If you see someone else in difficulty in the water in a reservoir, call 999 or 112 and ask for the Fire Service, tell the person in the water to ‘Float To Live’ and throw them something that floats. Never go into the water to attempt a rescue yourself.

We would be grateful if you could share this important message with the children in your care.

Annwyl riant/gwarcheidwad,

Gyda thywydd braf yn y rhagolygon dros y misoedd nesaf, mae Dŵr Cymru am i ni rannu neges atgoffa am beryglon nofio heb awdurdod mewn cronfeydd dŵr, yn annog pobl i beidio â mynedu’r dŵr mewn ardaloedd heb eu rheoli. Pob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn mentro i’n cronfeydd – ond mae hi’n beryg bywyd, ac mae pobl wedi marw wrth nofio heb awdurdod mewn ardaloedd heb reolaeth fel hyn, felly nid yw’n cael ei ganiatáu byth.

Mae cronfeydd dŵr yn gallu bod yn llawn peryglon cudd, gan gynnwys peiriannau yn y dŵr sy’n gallu dechrau gweithio’n awtomatig unrhyw bryd, a cerryntau cryf iawn, sy’n gallu tynnu’r nofwyr cryfaf hyd yn oed o dan y dŵr.  Y peth doeth felly yw nofio ar safleoedd y cronfeydd sy’n caniatáu hyn ar adegau ac mewn mannau penodedig.

Yn ogystal, mae tymheredd y dŵr yn iasoer, sy’n gallu achosi sioc dŵr oer, ac mae yna lai o debygolrwydd o gael eich achub mewn rhai ardaloedd hefyd am fod llawer o’r cronfeydd mewn lleoliadau anghysbell lle nad oes fawr ddim gwasanaeth ffôn symudol.

Os ewch chi i drafferthion yn y dŵr, ‘Arnofiwch i Fyw’ – hynny yw, ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn gyda’ch clustiau o dan y dŵr nes bod effeithiau’r sioc dŵr oer yn pylu. Wedyn gallwch nofio i ddiogelwch neu alw am gymorth.

Os gwelwch chi rywun arall mewn trafferthion yn y dŵr mewn cronfa ddŵr, ffoniwch 999 neu 112 a gofyn am y Gwasanaeth Tân, dywedwch wrth y person yn y dŵr sut i ‘Arnofio i Fyw’, a thaflwch gymorth hynofedd iddynt os oes modd. Peidiwch byth â mynd i’r dŵr i geisio eu hachub.

Byddem yn ddiolchgar pe baech chi’n gallu rhannu’r neges bwysig yma â’r plant sydd yn eich gofal.

Dymuniadau gorau