| Blwyddyn newydd o aelodaeth yr Urdd nawr ar agor! Byddwch yn rhan o fudiad ieuenctid mwyaf Cymru, byddwch yn aelod o’r Urdd. O chwaraeon i’r celfyddydau, gwaith dyngarol i wirfoddol, mae’r Urdd yn cynnig gymaint i blant a phobl ifanc Cymru. Sut? Gyda’n system ymaelodi, Y PORTH, mae’r broses yn syml. Cer i https://www.urdd.cymru/cy/ymuno/ Adnewyddu aelodaeth Os wyt wedi ymaelodi llynedd mae’r broses adnewyddu yn syml! Cer i mewn i’r Porth, gwiria dy fanylion ac yna cer ymlaen a chlicia ‘Adnewyddu Aelodaeth’ ger enw’r aelod dan sylw ac yna ymlaen i dalu. Ar ôl talu gelli ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio manylion, a gelli ddefnyddio’r Porth i gofrestru ar gyfer nifer o weithgareddau a chystadlaethau’r Urdd hefyd. Clicia yma i greu cyfri ac i ymaelodi dy blant heddiw. Os oes gen ti gwestiynau ynglŷn ag aelodaeth, cysyllta â ni drwy [email protected] |
A new year of Urdd membership is now open!
Be a part of Wales’ largest youth organisation, join the Urdd today.
From sports to the arts, humanitarian to volunteering, the Urdd has so much to offer children and young people in Wales.
How?
With our online portal, Y PORTH, the sign-up process is simple. Visit https://www.urdd.cymru/en/join/
Renew membership
If you registered last year, all you need do is enter your login details, check that your profile details are up to date, then click the ‘Renew Membership’ button for the member that needs renewing and then proceed to payment.
Once payment has been processed, you’ll be able to return to Y Porth at any time to check or update details, you will also be able to register and pay for Urdd activities and competitions through the system.
Click here to create an account and register your children with the Urdd today.
If you require any more information, contact us [email protected]
