Neges i atgoffa chi gyd am ein noson arwerthiant, nos Wener 18fed o Orffennaf,6.30yh yn y Canolfan Ceiriog. Mi fydd yr elw yn mynd i CRhA Ysgol Llanarmon, Ysgol a Cynddelw a Chylch Meithrin/Clwb ar ôl ysgol. Mi fyddwn yn hynod o ddiolchgar am eich cefnogaeth ar y noson ac i hybu’r noson i eraill ymuno os gwelwch yn dda. Mae nifer fawr o eitemau yn cynnwys gwersi gyrru, tractor i blant, dwy noson yng nghaban Cefn Coed, hanner diwrnod efo ‘Handy man Dave’, talebau i ‘Airhop’, talebau i Iron Works, gwersi Taekwondo, gwersi cerddoriaeth a chrochenwaith a llawer mwy! Mi fyddwn ddiolchgar dros ben os oes gan rywun unrhyw eitemau eraill i roi yn yr arwerthiant, neu yn adnabod rhywun fydd yn fodlon rhoi eitem. Rydym yn gobeithio cael noson llawn hwyl fydd yn codi arian sydd ei wir angen i’r ysgolion y ffederasiwn a Chylch / Clwb ar ôl ysgol. Diolch o flaen llawn am eich cefnogaeth barhaus.
A message to remind you all about our auction night, Friday 18th of July,6.30pm at the Ceiriog Community Centre. The profits will go to Ysgol Llanarmon PTA, Ysgol Cynddelw PTA and Cylch Meithrin/After school club. We would be very grateful for your support on the evening and if you could promote the event for others to join us please. There are many fantastic items listed including driving lessons, a tractor for children, two nights at the Cefn Coed cabin, half a day with ‘Handy man Dave’, vouchers for ‘Airhop’ and for Iron Works, Taekwondo lessons, music and pottery sessions and much more! We would be extremely grateful if anyone has any other items to donate to the auction, or if you know of someone / a business that would be willing to donate an item. We hope to have a fun filled evening that will raise much needed funds for the federation PTAs and the Cylch /After school club . Thank you in advance for your continued support.
Mrs Sockett

