Polisi Ymddygiad Rhieni / Parental Conduct Policy

We would like to share with you a copy of the recently developed Parental Conduct Policy, which has been created for all schools across Wrexham. The policy has been developed by a number of stakeholders, including the Local Authority’s Legal Team, in response to an increase in incidents of inappropriate behaviour towards schools and their staff.

We want to emphasise that we greatly value the positive relationships that exist between the Ceiriog Valley Federation and our parents and carers. We are fortunate that incidents of inappropriate behaviour towards our schools and staff are extremely rare, and we are very grateful for the support, respect and cooperation that our families consistently demonstrate.

The policy also includes a section outlining expectations around respectful behaviour and interactions between parents and carers themselves. It is important to recognise that the policy is not simply about addressing inappropriate behaviour towards school staff; it is about protecting, promoting and maintaining positive, respectful relationships across our entire school community.

Our aim is to ensure that both our schools remain welcoming, safe and supportive environments for everyone – pupils, parents, carers, staff and visitors alike. We hope that by sharing these expectations, we can continue to work together to maintain the positive and supportive community that makes our federation so special.

…………………………………………………………………………………………………………………………………………..

Hoffem rannu copi o’r Polisi Ymddygiad Rhieni a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer pob ysgol ar draws Wrecsam. Mae’r polisi wedi’i ddatblygu gan nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Tîm Cyfreithiol yr Awdurdod Lleol, mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad amhriodol tuag at ysgolion a’u staff.

Hoffem bwysleisio ein bod yn gwerthfawrogi’n fawr y berthynas gadarnhaol sy’n bodoli rhwng Ffederasiwn Dyffryn Ceiriog a’n rhieni a’n gofalwyr. Rydym yn ffodus iawn bod achosion o ymddygiad amhriodol tuag at ein hysgolion a’n staff yn hynod o brin, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth, y parch a’r cydweithrediad y mae ein teuluoedd yn eu dangos yn gyson.

Mae’r polisi hefyd yn cynnwys adran sy’n amlinellu’r disgwyliadau o ran ymddygiad a rhyngweithio parchus rhwng rhieni a gofalwyr eu hunain. Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r polisi yn ymwneud yn unig â mynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol tuag at staff yr ysgol; mae’n ymwneud â diogelu, hyrwyddo a chynnal perthnasoedd cadarnhaol a pharchus ar draws ein cymuned ysgol gyfan.

Ein nod yw sicrhau bod ein dwy ysgol yn parhau i fod yn amgylcheddau croesawgar, diogel a chefnogol i bawb – disgyblion, rhieni, gofalwyr, staff ac ymwelwyr fel ei gilydd. Gobeithiwn, drwy rannu’r disgwyliadau hyn, y gallwn barhau i gydweithio i gynnal y gymuned gadarnhaol a chefnogol sy’n gwneud ein ffederasiwn mor arbennig.