Secondary Admissions
Please be advised that applications for secondary school places for the September 2027 intake are now open.
The closing date for receipt of on-time applications is 31 October 2026.
Late applications are processed after those received on time, so it is important you submit your application by the closing date – 31 October 2026.
It is strongly recommended that you list more than one preference when making your application. Listing only one school, or listing the same school multiple times, does not result in a better chance of being offered that school. However, if you list only one preference and this is unsuccessful, any new preferences that you add after the closing date will be ‘late’ applications.
Open evenings
Our secondary schools will be holding their open evenings in the coming weeks. If you’re looking at options, they can be a great opportunity for both parents, guardians and children to visit schools to get an idea of what they are like. The dates for all school open evenings are available on our website.
Applying for a school outside of Wrexham
If you live in Wrexham, Flintshire, Denbighshire or Shropshire you must apply to your home local authority, even if the school you are applying to is over the border. These local authorities have a co-ordinated admissions arrangement.
This means that when a Wrexham resident submits an application to Wrexham’s admissions team, if the application lists a preference for a school in one of these three counties (for example, Ysgol Castell Alun in Flintshire, Ysgol Dinas Bran in Denbighshire, St. Martins in Shropshire) we will send your application to the correct admitting authority. You do not need to make separate applications to these local authorities. You should only apply to the authority where you live and add all school preferences to this one application.
How to apply
You can find information about how to apply and ‘frequently asked questions’ on our website – Secondary admissions | Wrexham County Borough Council

Derbyn i Ysgolion Uwchradd
Hoffem eich hysbysu bod y cyfnod i wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer mis Medi 2027 bellach wedi cychwyn.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau amserol yw 31 Hydref 2026.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau – 31 Hydref 2026.
Fe’ch argymhellir yn gryf i restru mwy nag un dewis wrth wneud eich cais. Ni fydd rhoi enw un ysgol, neu restru enw ysgol fwy nag unwaith, yn rhoi gwell siawns i chi o gael lle yn yr ysgol honno. Fodd bynnag, os ydych ond yn rhoi enw un ysgol ac nad yw eich cais am le yn yr ysgol honno yn llwyddiannus, bydd unrhyw ddewisiadau newydd a ychwanegwch ar ôl y dyddiad cau yn cael eu trin fel ceisiadau ‘hwyr’.
Nosweithiau agored
Bydd ein hysgolion uwchradd ni’n cynnal eu nosweithiau agored yn yr wythnosau nesaf. Os ydych chi’n ystyried dewisiadau, gallan nhw fod yn gyfle gwych i rieni/gwarcheidwaid a phlant ymweld ag ysgolion i gael syniad o ba fath o le ydyn nhw. Mae dyddiadau nosweithiau agored yr holl ysgolion ar gael ar ein gwefan.
Gwneud cais am ysgol y tu allan i Wrecsam
Os ydych chi’n byw yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych neu Swydd Amwythig, rhaid i chi wneud cais i’ch awdurdod lleol cartref, hyd yn oed os yw’r ysgol rydych chi’n gwneud cais amdani dros y ffin. Mae gan yr awdurdodau lleol hyn drefniant derbyn cydgysylltiedig.
Mae hyn yn golygu, pan fydd preswylydd Wrecsam yn cyflwyno cais i dîm derbyn Wrecsam, os yw’r cais yn nodi dewis ysgol yn un o’r tair sir hyn (er enghraifft, Ysgol Castell Alun yn Sir y Fflint, Ysgol Dinas Brân yn Sir Ddinbych, St. Martins yn Swydd Amwythig) byddwn yn anfon eich cais at yr awdurdod derbyn cywir. Nid oes angen i chi wneud ceisiadau ar wahân i’r awdurdodau lleol hyn. Dylech wneud cais i’r awdurdod lle rydych chi’n byw yn unig, ac ychwanegu pob dewis ysgol at yr un cais hwn.
Sut i wneud cais
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais a ‘chwestiynau cyffredin’ ar ein gwefan – Derbyn i Ysgolion Uwchradd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam